Ein Gwasanaethau
Menter gymdeithasol sy’n darparu gwasanaethau gwella cartrefi i berchnogion tai a thenantiaid preifat ar draws Ynys Môn a Gwynedd.
Gwasanaeth rhad ac am ddim i bobl 60 oed a drosodd yw Gofal a Thrwsio i’w cynghori a chefnogi i gynnal, gwella neu addasu eu cartrefi.
Gwasanaeth masnachol o gynnal addasiadau priodol yng nghartrefi pobl hŷn neu bobl fregus, er mwyn iddynt gynnal eu hannibyniaeth.
Gwasanaeth proffesiynol o ddylunio, cynllunio, archwilio a goruchwylio gwaith adeiladu, boed gwaith mawr neu fach. Yn gwasanaethu pobl hŷn neu pobl fregus.
Gwella Cartref, Gwella Bywyd
Gyda dros 30 mlynedd o brofiad lleol yn darparu gwasanaethau arbenigol perthnasol, ein cenhadaeth yw galluogi pobl i fyw’n annibynnol yn eu cymunedau
Ymfalchïwn yn ein cysylltiadau cryf rydym wedi ei ddatblygu gyda’r ddau Gyngor Sir leol, y Bwrdd Iechyd, a nifer o fudiadau trydydd sector a mentrau cymdeithasol lleol.
Rydym hefyd yn cael ein cydnabod yn genedlaethol am y gwaith rydym yn ei gyflawni, drwy Care & Repair Cymru a’r gwasanaethau a gomisiynir gan Lywodraeth Cymru.
Ein partneriaid
Ein prif bartneriaid sy’n allweddol i gyfrannu at lwyddiant ein hamcanion strategol a’r gwasanaethau yn lleol yw: