1. Sut rydym ni’n defnyddio eich data personol
Rydym ni wedi ymrwymo i ddiogelu eich data personol chi.
Rydym ni’n casglu data amdanoch pan rydych chi’n cofrestru i dderbyn gwybodaeth neu wasanaethau gennym, trwy gyfweliadau wyneb yn wyneb, galwadau ffôn a ffurflenni amrywiol. Rydym hefyd yn casglu gwybodaeth pan fyddwch yn mynychu digwyddiadau neu’n cwblhau ein harolygon / gwerthusiadau yn wirfoddol.
Byddwn yn defnyddio eich data personol ansensitif i
- eich cofrestru chi fel cleient newydd
- rheoli taliadau
- casglu ac adfer arian sy’n ddyledus i ni
- rheoli ein perthynas gyda chi
- anfon manylion am ein nwyddau a’n gwasanaethau atoch chi
Mae ein seiliau cyfreithiol ar gyfer prosesu eich data yng nghyswllt pwyntiau (i) i (iv) uchod ar gyfer cyflawni cytundeb gyda chi ac yng nghyswllt (iii) a (v) uchod, yn angenrheidiol ar gyfer ein budd cyfreithlon i ddatblygu ein cynhyrchion/gwasanaethau a thyfu ein busnes ac i adfer arian sy’n ddyledus.
Bydd unrhyw ddata personol sensitif a gasglwn gennych chi at ddibenion darparu ein gwasanaethau i chi neu os oes angen i ni gydymffurfio gydag ymrwymiad cyfreithiol. Ein sail cyfreithiol ar gyfer prosesu’r data yw eich caniatâd penodol chi.
Ni fyddwn yn rhannu eich manylion gyda thrydydd partïon at ddibenion marchnata, ac eithrio gyda’ch caniatâd penodol chi.
2. Datgelu eich data personol
Gallai fod yn ofynnol i ni rannu ein data personol gyda
- darparwyr gwasanaethau sy’n darparu cymorth Technoleg Gwybodaeth a systemau gweinyddol
- cynghorwyr proffesiynol yn cynnwys cyfreithwyr, bancwyr, archwilwyr ac yswirwyr
- Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi ac awdurdodau rheoleiddio eraill
- Recognising Excellence sydd yn rheoli’r rhaglen Advice Quality Service
- trydydd partion rydym ni’n gwerthu, trosglwyddo neu’n uno rhannau o’n busnes neu’n hasedau gyda nhw
- Meddygon, Adran Gwaith a Phensiynau, Awdurdodau Lleol, elusennau a landlordiau
- unrhyw swyddogion /cyrff proffesiynol eraill at ddibenion ein gwasanaeth i chi
Dan amgylchiadau penodol cewch ofyn i ni ddileu eich data. Edrychwch ar yr adran gyda’r teitl ‘Eich hawliau’ isod am ragor o wybodaeth. Mae’n ofynnol i’r trydydd partïon rydym ni’n trosglwyddo eich data iddynt barchu diogeledd eich data personol a’i drin yn unol â’r gyfraith. Caniateir iddynt brosesu eich data personol ar ein cyfarwyddyd ni yn unig.
3. Diogeledd Data
Rydym ni wedi cyflwyno mesurau diogeledd i atal eich data personol rhag cael ei golli’n ddamweiniol, ei ddefnyddio neu ei weld mewn modd diawdurdod, ei addasu neu ei ddatgelu. Rydym ni’n cyfyngu mynediad at eich data personol i’r cyflogeion, asiantau, contractwyr a thrydydd partïon eraill ag angen busnes i gael data o’r fath. Byddant yn prosesu eich data personol yn unol â’n cyfarwyddiadau ni yn unig ac maent yn ddarostyngedig i ddyletswydd cyfrinachedd. Rydym ni wedi cyflwyno gweithdrefnau i ymdrin ag unrhyw dorri’r rheoli data personol a amheuir, a byddwn yn eich hysbysu chi ac unrhyw reoleiddiwr perthnasol lle bo’n ofynnol yn gyfreithiol i ni wneud hynny.
Dan amgylchiadau penodol cewch ofyn i ni ddileu eich data. Edrychwch ar yr adran gyda’r teitl ‘Eich hawliau’ isod am ragor o wybodaeth. Gallem wneud eich data personol yn ddienw (fel nad oes modd eich adnabod chi o ddata o’r fath mwyach) at ddibenion ymchwil neu ystadegol, ac yn yr achos hynny gallem ddefnyddio’r wybodaeth hon am gyfnod amhenodol heb eich hysbysu ymhellach.
4. Cadw Data
Byddwn yn cadw eich data personol gyhyd ag y bo’n angenrheidiol i gyflawni’r dibenion y casglwyd y data ar ei gyfer. Gallem gadw eich data i fodloni unrhyw ofynion cyfreithiol, cyfrifyddu neu adrodd felly, er enghraifft, mae’n rhaid i ni gadw gwybodaeth benodol amdanoch chi am chwe mlynedd ar ôl i chi orffen bod yn gleient at ddibenion treth. Mae gennych chi’r hawl i ofyn i ni ddileu’r data personol sydd gennym ni amdanoch chi mewn amgylchiadau penodol. Edrychwch ar adran 6 isod.
5. Eich hawliau
Rydym chi’n medru gweithredu hawliau penodol yng nghyswllt eich data personol rydym ni’n ei brosesu. Nodir y rhain yn fanylach yn
Yng nghyswllt cais gwrthrych am wybodaeth, cewch wneud cais ein bod ni’n eich hysbysu chi am y data rydym ni’n ei ddal amdanoch chi a sut rydym ni’n ei brosesu. Ni fyddwn yn codi ffi am ymateb i’r cais hwn oni bai ei bod yn amlwg nad oes sail i’ch cais, neu eu bod yn geisiadau ailadroddus neu ormodol, ac yn yr achos hynny gallem godi ffi rhesymol neu wrthod ymateb.
Yn y rhan fwyaf o achosion byddwn yn ateb cyn pen mis o ddyddiad y cais, oni bai bod eich cais yn gymhleth neu eich bod chi wedi gwneud nifer fawr o geisiadau. Yn yr achos hynny byddwn yn eich hysbysu am unrhyw oedi ac, yn unrhyw achos, byddwn yn ateb cyn pen tri mis.
Os ydych chi’n dymuno cyflwyno cais gwrthrych am wybodaeth, anfonwch y cais at sylw’r Swyddog Diogelu Data –
Canllaw (Eryri) Cyf
Uned 8/9
Llys y Fedwen
Parc Menai
Bangor
Gwynedd
LL57 4BL
Neu anfonwch neges e-bost at gofalathrwsio@gofalathrwsio.org wedi’i gyfeirio at sylw’r Swyddog Diogelu Data
6. Cadw eich data yn gyfredol
Mae gennym ni ddyletswydd i gadw eich data personol yn gyfredol ac yn gywir, felly o dro i dro byddwn yn cysylltu gyda chi i ofyn i chi gadarnhau bod eich data personol yn parhau’n gyfredol ac yn gywir.
Os oes unrhyw newidiadau i’ch data personol (fel newid cyfeiriad), gadewch i ni wybod gynted ag y bo modd os gwelwch yn dda trwy ysgrifennu atom neu anfon neges e-bost i’r cyfeiriadau a nodir yn adran 6 uchod.
7. Cwynion
Rydym ni wedi ymrwymo i ddiogelu eich data personol ond, os nad ydych chi’n hapus gydag unrhyw agwedd o sut rydym ni’n casglu ac yn defnyddio eich data am unrhyw reswm, mae gennych chi’r hawl i gwyno i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, yr awdurdod goruchwylio materion diogelu data yn y Deyrnas Unedig (www.ico.org.uk).
Byddem yn gwerthfawrogi petaech chi’n cysylltu gyda ni gyntaf os oes gennych chi gwyn fel y medrwn ni geisio datrys eich cwyn.