Amdanom ni
Ymddiried ynom i ddarparu gwasanaethau fydd yn gwella eich annibyniaeth, cysur ag symudedd o fewn eich cartref – cyn belled a sy’n bosib.
Gyda dros 30 mlynedd o brofiad lleol yn darparu gwasanaethau arbenigol perthnasol, ein cenhadaeth yw “galluogi pobl i fyw’n annibynnol yn eu cymunedau”
Ein gweledigaeth yw bod cartrefi addas yn cynnal annibyniaeth yr unigolyn i fod yn ddiogel, cynnes a chlyd.
Byddwn yn cyfarch hyn drwy sicrhau gwella cartrefi i alluogi pobl i fyw’n annibynnol yn eu cymunedau.
Mae ein staff ymroddedig yn ymwybodol y gwahaniaeth mae eu gwaith yn wneud i fywydau pobl leol, ac mae ein gwerthoedd yn gyrru ein gwaith dyddiol, sef:
Y cwsmer
Drwy gwrando, canolbwyntio ac ymateb i’w anghenion.
Parch
At ein cwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid, ac i’r gymuned yn ehangach.
Cyflawni
Yr hyn sy’n ddisgwyliedig gyda brwdfrydedd ac effeithiolrwydd.
Rhagori
Ar ein safonau a pherfformiad.
Arloesi
Drwy fentro a datblygu cyfleoedd a sgiliau newydd.
Ein prif wasanaethau
Gwasanaeth rhad ac am ddim i bobl 60 oed a drosodd i’w cynghori a chefnogi i gynnal, gwella neu addasu eu cartrefi. Yn benodol yn y sector breifat, ac wedi ei ariannu’n bennaf gan Lywodraeth Cymru.
Gwasanaeth proffesiynol o ddylunio, cynllunio, archwilio a goruchwylio gwaith adeiladu, boed gwaith mawr neu fach. Yn gwasanaethu cleientiaid sy’n bobl hŷn neu bobl fregus.
Gwasanaeth masnachol o gynnal addasiadau priodol yng nghartrefi pobl hŷn neu bobl fregus, er mwyn iddynt gynnal eu hannibyniaeth.