Addasu Cartrefi
Does nunlle yn debyg i gartref ac mae’n lle sy’n bwysig o safbwynt llesiant yr unigolyn yn ogystal â theimlo’n ddiogel a chlyd. I nifer o’n cleientiaid, mae newid mewn iechyd neu symudedd yn gallu rhwystro neu fygwth eu gallu i fyw neu symud o amgylch y cartref yn ddiogel.
Rydym yn deall pa mor anodd yw’r newid hynny yn gallu bod, a pa mor galed yw os rydych yn teimlo fod eich cartref ddim yr amgylchedd dymunol i fyw yn ddiogel yno o ddydd i ddydd mwyach.
Rydym wedi cynorthwyo nifer o gleientiaid i addasu eu cartrefi i’w anghenion presennol a/neu ddyfodol, i alluogi nhw i barhau byw gartref yn ddiogel.
Rydym gyda phrofiad helaeth o addasu cartrefi i gyfarch anghenion pobl sy’n byw gyda chyfyngiadau symudedd, ac/neu amodau iechyd penodol fel Parkinson’s, dementia, strôc neu nam synhwyraidd.
Mae Canllaw Addasu yn darparu gwasanaeth arbenigol o addasu ystafelloedd ymolchi a cheginau pwrpasol i anghenion yr unigolyn.
Gydag aseswyr arbenigol, gallwn gynghori ar y gwahanol opsiynau addas gall fod ar gael, i osodwyr profiadol i gyflawni’r gwaith o’r safon uchaf. Cynigir gwasanaeth cyflawn ar draws yr holl broses, o’r dechrau i’r diwedd, o gyngor cychwynnol, cynnig pris cystadleuol i gyflawni’r gwaith gorffenedig.
Am gyngor pellach, cysylltwch ag 0300 111 2010 neu addasu@canllaw.org