Cyngor a chymorth
Mae Canllaw yma i’ch helpu i fyw mor gyfforddus ac annibynnol yn eich cartref, fel y gallwch fwynhau eich bywyd yn yr amgylchedd rydych yn ei garu.
Rydym yn cefnogi pawb 60 oed a drosodd neu bobl fregus/anabl sy’n byw yng Ngwynedd ac Ynys Môn a mae gennym aseswyr profiadol sy’n cynnig cefnogaeth sy’n ymestyn yr holl ffordd o waith trwsio ac addasiadau bychain neu welliannau i’r cartref, i gyngor a chyflawni addasu eich cartref neu helpu pan fyddwch yn gadael yr ysbyty.